Cinderella

Camwch i fyd hudolus Hardup Hall, lle mae breuddwydion yn cael eu gwireddu, mae chwerthin yn llenwi'r awyr, ac mae hud tylwyth teg yn aros amdanoch!

Mae Cinderella druan yn garedig, yn glyfar, ac yn gweithio'n ddiwyd drwy'r amser, ond mae ei bywyd ymhell o fod yn stori dylwyth teg. Wrth i'w llysfam ddrygionus a'i llyschwiorydd hynod o gas wneud ei bywyd yn ddiflas, mae gobaith wedi diflannu yn ôl pob golwg—nes bod y Ddewines Garedig ddisglair yn ymddangos gyda'i hud a lledrith! Gydag ychydig o lwch sêr a help gan ei ffrindiau, mae gweddnewidiad Cinderella yn dechrau.

Yn llawn chwerthin, caneuon gwych, effeithiau syfrdanol a digon o hwyl i'r gynulleidfa, Cinderella yw'r wledd hudol orau i bob oedran. Peidiwch â cholli sioe y flwyddyn gan y Friendship Theatre Group sydd wedi ennill gwobrau—archebwch eich tocynnau nawr cyn i'r cloc daro hanner nos!

Rhybudd
Sylwch y bydd goleuadau strôb, mwg theatrig a phyrotechneg yn cael eu defnyddio yn ystod y perfformiad hwn.

Perfformiadau Premiwm: (dydd Gwener, dydd Sadwrn, dydd Sul) Pris Llawn: £16, Consesiwn £14, Tocyn Teulu £56 Grŵp 10+ £14 (mae gostyngiad yn cael ei roi'n awtomatig yn y cert pan ychwanegir dros 10 o docynnau).

Perfformiadau Safonol: (dydd Mercher, dydd Iau) Pris Llawn £14, Consesiwn £12, Tocyn Teulu £48 Grŵp 10+ £12 (mae gostyngiad yn cael ei roi'n awtomatig yn y cert pan ychwanegir dros 10 o docynnau), Grŵp 25+ £10 (rhaid archebu drwy'r Swyddfa Docynnau).

Perfformiad ag Iaith Arwyddion Prydain: Nos Fercher, 21 Ionawr, 6.30pm.

Beth yw perfformiad wedi'i gyfieithu i Iaith Arwyddion Prydain?
Mewn perfformiadau Iaith Arwyddion Prydain, bydd arwyddwyr hyfforddedig yn cyfieithu'r sgript a'r iaith a ddefnyddir gan y perfformwyr yn ystod y perfformiad. Fel arfer, bydd y cyfieithydd yn sefyll neu'n eistedd ar un ochr o'r llwyfan.

Perfformiad ymlaciedig: Nos Fercher, 28 Ionawr, 6:30pm

Beth yw perfformiad ymlaciedig? Mae perfformiad ymlaciedig yn agored i bawb, ac maent yn benodol ar gyfer plant, pobl ifanc neu oedolion sydd ag anableddau, anghenion cymorth ychwanegol a'r rhai sydd ar y sbectrwm awtistig. Cysylltwch â'n tîm yn y Swyddfa Docynnau i gael rhagor o wybodaeth.

Info Cyflym

  • Cwmni: Friendship Theatre Group
  • Categori: Christmas Show
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli

Info Cyflym

  • Cwmni: Friendship Theatre Group
  • Categori: Christmas Show
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli