Chronicles of the Unknown
Lle daw theatr a chwarae rôl at ei gilydd!Cyflwynir gan Flossy and Boo ar y cyd â yello brick.
Plymiwch i fyd o ddirgelwch steampunk lle gall unrhyw beth ddigwydd. Beth am greu stori newydd sbon gyda'n perfformwyr proffesiynol, gan helpu i lunio'r hyn sy'n digwydd a dylanwadu ar ddewisiadau'r cymeriadau. Mae "Chronicles of the Unknown" yn ddigwyddiad theatr rhyngweithiol a llawn dychymyg y byddwch yn ymgolli ynddo.
Gan gyfuno adrodd straeon, chwarae byrfyfyr a gemau, mae Chronicles yn brosiect newydd sbon gan feddyliau chwilfrydig Flossy and Boo, ar y cyd â yello brick. Profiad adrodd straeon unigryw, cydweithredol wedi'i anelu at y rheiny sy'n 13 oed ac yn hŷn, yn seiliedig ar theatr fyrfyfyr a gemau chwarae rôl.
Gweithdy
Mae yna hefyd weithdy cyn y sioe am 2:30pm lle gallwch ddysgu chwarae a chreu cymeriadau a straeon i'w hychwanegu at ein byd.
Tocynnau £12.50 | £8.50 | £38
- 14 Meh, 17:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Flossy and Boo
- Categori: Drama
- Theatr: Ffwrnes Llanelli - Stiwdio Stepni

Info Cyflym
- Cwmni: Flossy and Boo
- Categori: Drama
- Theatr: Ffwrnes Llanelli - Stiwdio Stepni
