Charlie and the Chocolate Factory

Opera Ieuenctid Caerfyrddin yn cyflwyno


Yn seiliedig ar y stori eiconig, mae'r sioe lwyfan ysblennydd hon yn dilyn cynyrchiadau llwyddiannus y West End a Broadway i gyfuno'r caneuon cofiadwy o'r darlun gwreiddiol o'r 1970au ('The Candy Man' a 'Pure Imagination') gyda chaneuon cyfansoddwyr arobryn Hairspray.

Pan mae Charlie Bucket yn dod o hyd i un o 5 tocyn aur i Ffatri Siocled Wonka, mae Charlie a'r enillwyr eraill yn edrych ymlaen yn eiddgar i fwynhau danteithion eu breuddwydion yn y ffatri. Ond y tu hwnt i'r gatiau, mae nhw'n darganfod llawer mwy na melysion bendigedig. Wrth iddynt gychwyn ar daith eithriadol drwy feddwl rhyfeddol Willy Wonka, maen nhw'n dod i wybod ymhen dim nad oes neb yn gadael y ffatri yn yr un modd...

Byd rhyfedd a rhyfeddol Charlie and The Chocolate Factory gan Roald Dahl – Bydd y Sioe gerdd yn saff o'ch plesio yn ystod hanner tymor mis Chwefror! 

Cynhyrchiad ieuenctid
Tocynnau | £20 & £15

Info Cyflym

  • Cwmni: Carmarthen Youth Opera
  • Categori: Musical Theatre
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen

Info Cyflym

  • Cwmni: Carmarthen Youth Opera
  • Categori: Musical Theatre
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen