Buddy Holly & The Cricketers

Mae'r sioe drawiadol hon wedi diddanu cynulleidfaoedd ledled y byd gan gynnwys yng Nghaerdydd, Califfornia, Barking, Bangkok, Swindon a Sweden a bydd yn sicr o ysgogi pawb i ymuno yn y canu ac i ddawnsio yn eu seddi. Mae'n serennu rhai o actorion a cherddorion gorau yn y DU, gan gynnwys sêr sydd wedi perfformio yng nghynyrchiadau 'Buddy', 'Lennon', 'Forbidden Planet' a 'Jailhouse Rock' yn y West End. Hefyd, honnwyd mai hon oedd act Buddy Holly fwyaf poblogaidd Prydain pan oedd y dynion wedi ymddangos ar raglen BBC One yn fyw ar nos Sadwrn, "The One and Only", a gyflwynwyd gan Graham Norton. Nid yw'r dynion braidd yn cael cyfle i gymryd anadl, yn sicr, hon yw'r gyngerdd fwyaf gwefreiddiol o'i math. Cewch gyfle i glywed cân ar ôl can - That’ll Be The Day, Peggy Sue, Heartbeat, It Doesn’t Matter Anymore, Raining In My Heart, Oh Boy! – a llawer, llawer mwy. Pa bynnag adeg o'r flwyddyn yw hi, beth bynnag fo'r esgus i gael parti, gwnewch i'ch calon guro ychydig yn gyflymach drwy ddod i weld y sioe sydd â miloedd o selogion ledled y byd yn dweud: "Dwi ffaelu credu mai nad ef yw'r Buddy go iawn!”

Tocynnau | £23

Info Cyflym

  • Categori: Music
  • Theatr: Lyric Theatre - New Plan

Info Cyflym

  • Categori: Music
  • Theatr: Lyric Theatre - New Plan