An Intimate Acoustic Evening with Ward Thomas
Perfformiwr cefnogi: Beth Rowley
Fel yr act fwyaf llwyddiannus ym myd canu gwlad y DU, bydd yr efeilliaid Catherine a Lizzy Ward Thomas yn teithio ledled y wlad ym mis Ionawr a mis Chwefror 2025 gyda sioe arbennig yn cynnwys fersiynau o'r caneuon ar hyd eu gyrfa.
A hwythau wedi recordio eu halbwm cyntaf, 'From Where We Stand' yn 2014, tra oeddent dal yn yr ysgol, mae Ward Thomas wedi cadarnhau eu statws fel un o arloeswyr Canu Gwlad y DU ac Americana. Maent yn fwyaf adnabyddus am yr albwm, 'Cartwheels', a ryddhawyd yn 2016 gan fynd i Rif 1 yn Siartiau Albwm y DU - yr act canu gwlad gyntaf yn y DU i gyrraedd brig y siartiau. Yn 2019, cyflwynwyd Gwobr Cyflawniad Byd-eang Jeff Walker y Gymdeithas Cerddoriaeth Gwlad i'r band fel cydnabyddiaeth o'i lwyddiant a'i gyfraniad i fyd canu gwlad yn y DU.
Cafodd 'Music In The Madness' ei ganmol gan feirniaid am ei sain arbennig yn gymysg ag arddull pop a chanu gwlad, ac o ran y sioe Barbican yn gynharach eleni, dywedodd The Upcoming, ‘It’s safe to say Ward Thomas delivered a magical performance that left us on a high – an evening to remember."
Bydd y sioe unigryw hon yn mynd â Ward Thomas yn ôl i'w dyddiau cynnar o berfformio ac ysgrifennu gyda'i gilydd, a bydd y ddeuawd yn perfformio ac yn rhannu'r straeon sydd wrth wraidd y caneuon a gafodd gymaint o ddylanwad ar fyd canu gwlad.
Mae Beth Rowley yn adnabyddus am ei llais cyfoethog, naturiol ac mae'n cael ei dylanwadu gan Gospel Spirituals, Americana a'r Blues. Yn 2019, cafodd ei hail albwm, Gota Fria, ei ddylanwadu'n fwy gan gitâr drydan y 70au ynghyd â'r harmonica a'r gitâr pedal-ddur, a gwerthodd pob tocyn ar gyfer ei thaith o gwmpas y DU.
- 7 Chwe, 19:30 ARCHEBWCH NAWR
Info Cyflym
- Cwmni: Senbla Presents
- Categori: Music
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen
Info Cyflym
- Cwmni: Senbla Presents
- Categori: Music
- Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen