An Evening with Ken Owens & Alun Wyn Jones OBE

Ymunwch â TMH Promotions am noson fythgofiadwy yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin, yng nghwmni dau o sêr rygbi Cymru; Ken Owens ac Alun Wyn Jones OBE, ynghyd â'r cyflwynydd Sean Holley. 

Mae amser difyr o'ch blaen wrth i Ken Owens ac Alun Wyn Jones gamu i'r llwyfan i rannu eu hanesion rhyfeddol fel eiconau rygbi rhyngwladol, a hynny ar gyfer Cymru a'r Llewod. Byddant yn manylu ar eu gyrfaoedd, gan sôn am y gemau lle roedd pawb ar bigau'r drain a'r buddugoliaethau mawr, ac yn rhannu'r straeon a'r digwyddiadau â ni sydd wedi eu harwain at eu mawredd ym myd rygbi. 

P'un a ydych chi'n frwd iawn dros rygbi neu'n gwerthfawrogi rhagoriaeth ym maes chwaraeon, mae'n addo bod yn noson a fydd yn eich ysbrydoli, yn gwneud ichi chwerthin ac yn rhoi cipolwg ichi ar fyd rygbi ar y lefel uchaf. Archebwch eich tocynnau nawr ac edrychwn ymlaen at noson gofiadwy yng nghwmni sêr rygbi Cymru! 

Tocynnau Arbennig: £60 
Bydd deiliaid tocynnau arbennig yn cael mynediad cynnar i'r lleoliad, yn cael cwrdd â'r chwaraewyr a'u cyfarch cyn y sioe, ac yn cael llun proffesiynol i fynd ag ef adref gyda nhw i gofio'r noson. 

Tocynnau | £35, VIP £60

Amserlen
6pm: Drysau ar agor i ddeiliaid tocynnau VIP yn unig
6:30pm – 7pm: Cyfarfod a Chyfarch cyn y sioe
6:45pm: Drysau ar agor, mynediad cyffredinol
7:30pm: Sioe yn dechrau
10:15pm: Sioe yn dod i ben (tua amser)

Info Cyflym

  • Cwmni: TMH Promotions
  • Categori: General Entertainment
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen

Info Cyflym

  • Cwmni: TMH Promotions
  • Categori: General Entertainment
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen