An Evening of Burlesque Cabaret

Noson Ogoneddus o Glamor, Chwerthin a Hwyl. 


Mae sioe fwrlésg hynaf y DU yn ôl ar daith o amgylch y wlad, gyda thro newydd cyffrous! Yn cyflwyno An Evening of Burlesque Cabaret — dathliad arbennig o gabaret, bwrlésg, ac adloniant o'r radd flaenaf. Mae'r sioe amrywiaeth hon yn cyfuno cabaret, comedi, cerddoriaeth, a bwrlésg mewn strafagansa ysblennydd o glits a glamor. 

Dyma ichi noson o berfformiadau syfrdanol lle bydd merched sioe trawiadol, artistiaid cabaret arbenigol, a sêr y llwyfan a'r sgrin. Gallwch ddisgwyl hwyl, plu a gwisgoedd gwych wrth i ni arddangos y detholiad gorau o artistiaid arbenigol, comedïwyr a dawnswragedd dawnus. Gyda'i chyfuniad o swyn y cabaret ac atyniad bwrlésg, mae'r sioe wefreiddiol hon yn brofiad unigryw a deniadol sy'n ailddiffinio amrywiaeth ar gyfer yr 21ain ganrif. Mae Bwrlésg wedi swyno cynulleidfaoedd ers canrifoedd, ac mae An Evening of Burlesque Cabaret yn rhoi i ni'r gorau oll o fwrlésg a cabaret cyfoes. 

Gallwch ddisgwyl yr annisgwyl a digonedd o glitr, glamor ac eiliadau cofiadwy. Mae'n amser coctels a cabaret - mae noson i'w chofio'n eich disgwyl! Tocynnau ar werth nawr. Peidiwch â cholli'r cyfaredd! 


Cyfyngiad oedran: 18+


⭐️⭐️⭐️⭐️⭐️ "A must-see for any fans of a classic cabaret, an amazing troupe of performers, this wonderful show is full of glitz, glam and wonder"- Curtain Call Reviews 

⭐️⭐️⭐️⭐️⭐️ "The UK’s longest running burlesque show made its West End debut and proved that it is the ultimate variety show" - FabUK Magazine 

⭐️⭐️⭐️⭐️⭐️ "What a treat! Billed as ‘a night of laughter, cabaret, mystery and glamour’, it does entirely what it says on the tin" - Fairy Powered Productions 

“The whole evening was fun, warm, sexy, sassy. . . “ - Grapevine Magazine


Tocynnau | £32.50 

Info Cyflym

  • Cwmni: Entertainers Show Providers Ltd
  • Categori: General Entertainment
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen

Info Cyflym

  • Cwmni: Entertainers Show Providers Ltd
  • Categori: General Entertainment
  • Theatr: Lyric, Caerfyrddin | Carmarthen