Agatha Christie's - The Mirror Crack'd - A New Adaptation by Rachel Wagstaff

Yn Lloegr yn y 1960au, mae pethau’n prysur newid.. Mae’r newid hyd yn oed wedi cyrraedd pentref tawel St Mary Mead. Mae yna stad o dai newydd i wneud y pentrefwyr yn chwilfrydig ac yn ofnus, ac erbyn hyn mae yna fwrlwm yn y pentref achos y newyddion bod seren ffilm Americanaidd wedi prynu'r Plasty. Mae Miss Jane Marple, sydd wedi'i chyfyngu i gadair ar ôl damwain, yn pendroni a yw bywyd wedi mynd heibio iddi. Yna mae llofruddiaeth ddieflig yn digwydd, ac mae rhaid i Miss Marple ddatrys sefyllfa’n llawn celwyddau, trasiedi a pherygl. 

Mae'r addasiad hwn o nofel enwog Agatha Christie yn dod â dyfnder emosiynol go iawn a mewnwelediad seicolegol i stori gyffrous am ddial a chyfrinachau tywyll. Mae Llanelli Little Theatre yn eich gwahodd i ymuno â nhw am noson o adloniant a chynnwrf gan Frenhines y straeon dirgelwch. 

Cynhyrchiad amatur

Tocynnau | £14

Info Cyflym

  • Cwmni: Llanelli Little Theatre
  • Categori: Drama
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli

Info Cyflym

  • Cwmni: Llanelli Little Theatre
  • Categori: Drama
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli