AC/DC UK

Mae AC/DC UK, un o'r actiau teyrnged mwyaf poblogaidd a chyffrous i’r band roc chwedlonol AC/DC, yn dod i'r Ffwrnes, Llanelli yn 2025! 
Paratowch eich hun am noson o adloniant roc pur gan fod y sioe drawiadol hon yn cynnwys canonau tanio llawn, Rosie chwyddadwy, ac offer Marshall go iawn! 
Mae perthynas greadigol eiconig Angus a Brian yn cael ei hail-greu'n berffaith wrth i AC/DC UK ganu'r ‘hits’ mwyaf ynghyd â rhai o’r hen ffefrynnau ym mhob sioe! Mae'r band hwn yn cyfleu ychydig o naws yr 80au, gan hefyd gyflwyno sioe unigryw a difyr noson ar ôl noson. 
Mae AC/DC UK wedi perfformio ar rai o lwyfannau mwyaf Ewrop i filoedd o bobl mewn digwyddiadau ledled y DU a thu hwnt. Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf maent wedi perfformio mewn digwyddiadau mawr gan gynnwys Graspop Metal Meeting / Metal Moose, Alcatraz Festival, Herning Rocker a Stone Free. Mae AC/DC UK wedi rhannu llwyfan ag enwogion roc gan gynnwys Guns N’ Roses, Iron Maiden, Alice Cooper, The Darkness, D-A-D a llawer, llawer mwy. 

Tocynnau sefyll yn unig ar y llawr gwaelod, seddi cyfyngedig ar gael yn y Cylch.
 
Tocynnau | £20.50

Info Cyflym

  • Cwmni: Events for Wales
  • Categori: Music
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli

Info Cyflym

  • Cwmni: Events for Wales
  • Categori: Music
  • Theatr: Ffwrnes Llanelli