Beauty and the Beast

Cyhoeddi cast ar gyfer Pantomeim Nadolig Caerfyrddin Beauty and the Beast yn Theatr y Lyric

Mae Theatrau Sir Gâr yn falch iawn o gyhoeddi'r cast arbennig ar gyfer pantomeim y Nadolig y mae disgwyl ymlaen yn eiddgar amdano eleni, sef Beauty and the Beast. Bydd y panto'n cael ei gynnal rhwng 12 a 29 Rhagfyr 2024, ac mae'n argoeli i fod yn sioe ysblennydd sy'n llawn eiliadau hudol a digon o chwerthin i'r teulu cyfan.

Yn dilyn llwyddiant pantomeim y llynedd a welwyd gan bron i 8,000 o bobl leol, bydd Beauty and the Beast yn cael ei gynhyrchu'n fewnol gan dîm Theatrau Sir Gâr unwaith eto, mewn trefniant â'r cwmni cynhyrchu pantomeim adnabyddus, Imagine Theatre.

Ymhlith cast Beauty and the Beast eleni y mae tri aelod a anwyd yn Sir Gaerfyrddin. Mae'r lein-yp yn cynnwys -

  1. Steve Elias yn actio'r cymeriad doniol Sylvia Scrub-it

    Mae Steve yn falch iawn o gael dychwelyd i'w dref enedigol i chwarae'r ‘panto dame'. Ar ôl gadael Caerfyrddin i fynd i Lundain ar ddiwedd ei arddegau, mae Steve wedi gweithio'n galed i sicrhau gyrfa lewyrchus a llwyddiannus ar y llwyfan ac ar sgrin. Roedd Steve yn rhan o'r cwmni gwreiddiol ar gyfer Billy Elliot ac roedd yn gyfrifol am greu'r cymeriad Mr Braithwaite. Hefyd, rhannodd lwyfan â Patrick Swayze yn y cynhyrchiad arobryn Guys and Dolls yn Theatr Piccadilly, Llundain. Ymhlith ei ymddangosiadau mwyaf nodedig yng nghynyrchiadau'r West End y mae Oklahoma, Chitty Chitty Bang Bang a Showboat ond i enwi rhai. O ran byd y ffilmiau a'r teledu, ymddangosodd yn Grandpa in my Pocket, Holby City, Victoria Wood's Midlife Christmas a Save the Cinema.

    Cyn ymddangos yn ei banto cyntaf yn y Lyric, dywedodd Steve: "Rwy'n falch iawn o fod yn perfformio'r Fonesig Scrub-It yn fy nhref enedigol! Rhybudd - mae hi'n chwilio am gariad, gŵr a diemwntau... Nid o reidrwydd yn y drefn honno! "

  2. Carwyn Glyn yn actio'r cymeriad hoffus Sammy Scrub-it

    Mae bachgen arall o Sir Gaerfyrddin, Carwyn, yn hanu o Bont-iets ac efallai ei fod yn fwy adnabyddus i gynulleidfaoedd fel DJ yn opera sebon Gymraeg S4C, Pobol y Cwm. Yn ddiweddar, mae Carwyn hefyd wedi ymddangos yn ffilm nodwedd Dream Horse ar gyfer Film4, ochr yn ochr â Damian Lewis a Toni Collette. Bydd cefnogwyr rygbi yn gyfarwydd â llais Carwyn, gan mai ef hefyd yw cyhoeddwr Clwb Rygbi'r Scarlets ar ddiwrnod gêm. Cyn iddo ymddangos yn Beauty and the Beast ym mis Rhagfyr eleni, dywedodd Carwyn:

    "Rwy'n edrych ymlaen at ddod adref i'r Lyric dros y Nadolig!"

  3. Ceri-Anne Thomas yn actio'r cymeriad hardd a charedig Belle

    Mae merch o Ben-y-bont ar Ogwr, Ceri-Anne, wrth ei bodd yn camu'n ôl i'r wisg blue gingham am yr eildro gan ymddangos mewn Panto fel Belle, yn dilyn ei chyfnod llwyddiannus yng nghynhyrchiad Pafiliwn Porthcawl y llynedd.

    "Rwy'n edrych ymlaen at ddod â'r panto mawreddog hwn i gymuned arbennig Caerfyrddin. Roedd Belle bob amser yn ffigwr ysbrydoledig gan nad yw'n 'damsel in distress' ac ni allaf aros i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o Belles yn hwyl y Nadolig,".

  4. Alexandra George yn actio'r cymeriad cyfrinol Enchantress

    Yn gyn-ddisgybl Ysgol Q.E High, ymddangosodd Alexandra mewn nifer o gynyrchiadau Opera Ieuenctid Caerfyrddin pan oedd yn ifanc. Mae'n edrych ymlaen at gamu'n ôl ar lwyfan y Lyric y Nadolig hwn i chwarae rhan gyfareddol Enchantress. Mae Alexandra yn hen gyfarwydd â phanto ar ôl chwarae Lavinia Lifestyle yn Jack and the Beanstalk yn Royal Leamington Spa y Nadolig diwethaf ac ymhlith ei pherfformiadau llwyfan eraill y mae the Thursford Christmas Spectacular.

    "Rydw i mor gyffrous i gael perfformio yn Theatr y Lyric y Nadolig hwn yn Beauty and the Beast. Fel merch ifanc cefais fy magu yn perfformio gyda Theatr Ieuenctid Myrddin ac Opera Ieuenctid Caerfyrddin ac roedd y profiadau hynny yn diffinio pwy ydw i fel perfformiwr proffesiynol. Rwyf wrth fy modd yn gallu dod yn ôl i'r Lyric a rhannu'r sioe hyfryd hon!"

  5. Neil Moors yn actio'r cymeriad drwg Gaston

    Ar ôl graddio o'r Academi Gerdd Frenhinol ac Ysgol Lleferydd a Drama Birmingham, mae gan Neil, sy'n frodor o Fanceinion, CV trawiadol yn dilyn llwyddiant ar lwyfan a theledu. Mae wedi ymddangos yn Coronation Street, cynhyrchiad y West End o Mama Mia, taith Rebecca The Musical! Great Expectations o amgylch y DU ynghyd â llawer i bantomeim.

    Mae Neil yn gyffrous iawn i fod yn mynd i Sir Gaerfyrddin i gymryd rôl Gaston y Nadolig hwn – mae hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at grwydro'r gornel hon o Gymru gyda'i ddau gi rhwng sioeau.

  6. Jonathan Alden yn actio'r Tywysog golygus a'r Bwystfil brawychus.

    Yn wreiddiol o Gaerloyw, mae Jonathan bellach yn galw Abertawe yn gartref, felly mae'n fwyfwy arbennig iddo gael perfformio ei banto cyntaf yng Nghymru y Nadolig hwn. Ar ôl graddio o Ysgol Actio Guildford, mae Jonathan wedi mynd ymlaen i ymddangos mewn nifer o gynyrchiadau mawreddog gan gynnwys perfformio yng nghyngerdd Pen-blwydd Les Misérables yn 25 yn yr O2, Llundain, Phantom of the Opera, ynghyd â theithiau Joseph & The Technicolour Dreamcoat a Billy Eliott ledled y DU. Mae Jonathan hefyd wedi chwarae Bill Sykes yn Oliver! a Dave yn The Full Monty.

    "Rwy'n edrych ymlaen at fod yn rhan o banto Caerfyrddin eleni! I mi, mae'n gymaint o hwyl dod â stori dda, llwyth o chwerthin, hwyl yr ŵyl a llawer o ryngweithio â'r gynulleidfa i bobl adeg y Nadolig! "Gan amlaf, dyma brofiad cyntaf plant o'r theatr hefyd, mae hynny bob amser yn wych!"

Perfformiadau hygyrch ac archebion grŵp

Bydd perfformiad hamddenol o Beauty and the Beast ar 27 Rhagfyr am 6pm a chynhelir perfformiad gydag Iaith Arwyddion Prydain ar 15 Rhagfyr, 6pm. Hefyd mae perfformiadau yn ystod y dydd yn ystod pythefnos olaf y tymor ar gyfer ysgolion - Dilynwch y ddolen hon ar gyfer perfformiadau ysgol Beauty and the Beast | Ysgolion - Sch... - Theatrau Sir Gâr (theatrausirgar.co.uk)

£13.50 yn unig yw'r tocynnau rhataf ac mae cyfraddau gostyngol ar gyfer grwpiau ac ysgolion. Os ydych yn trefnu taith gan grŵp neu ysgol i'r panto, cysylltwch â'r swyddfa docynnau drwy e-bostio theatrau@sirgar.gov.uk a byddant yn hapus i'ch helpu gyda'ch archeb.

Bydd Beauty and the Beast yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin rhwng Rhagfyr 12 a 29. I Gellir archebu tocynnau ar-lein yma, Beauty and the Beast | Lyric - Theatrau Sir Gâr (theatrausirgar.co.uk) neu ffoniwch y swyddfa docynnau ar 0345 226 3510.

Gyda chaneuon syfrdanol, gwisgoedd i'ch rhyfeddu, a digon o ryngweithio â'r gynulleidfa, bydd Beauty and the Beast yn ddigwyddiad y mae'n rhaid ei weld y Nadolig hwn yng Nghaerfyrddin.

Phillip Arran
Owain Williams
Gareth Elis
Chantelle Morgan
Sion Tudur Owen
Megan-Hollie Robertson